Gofyn i’ch cyflogwr am Dâl Tadolaeth Statudol a/neu Absenoldeb Tadolaeth
Os ydych am gael amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn cefnogi eich partner sy’n cael plentyn drwy roi genedigaeth, drwy fabwysiadu, neu drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i’r canlynol:
- Tâl Tadolaeth Statudol (SPP)
- un wythnos neu ddwy o Absenoldeb Tadolaeth
I wneud cais am Dâl Tadolaeth Statudol a/neu Absenoldeb Tadolaeth, gallwch lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon at eich cyflogwr. Bydd eich cyflogwr yn defnyddio’ch gwybodaeth i wirio a ydych yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol, Absenoldeb Tadolaeth, neu’r ddau.
Os ydych yn gymwys, dim ond ar ôl i’r plentyn gael ei eni neu ei fabwysiadu y gallwch ddechrau eich cyfnod o absenoldeb.
Dysgwch ragor am dâl ac absenoldeb Tadolaeth a’ch cymhwystra.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
I hawlio Tâl Tadolaeth Statudol a/neu Absenoldeb Tadolaeth, dylech wneud y canlynol:
- llenwi’r ffurflen hon a’i hanfon at eich cyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni (mae hyn yn wahanol os byddwch yn mabwysiadu)
- rhoi gwybod i’ch cyflogwr am eich dyddiadau absenoldeb o leiaf 28 diwrnod cyn i chi eu cymryd (nid oes angen i chi wybod eich dyddiadau absenoldeb wrth lenwi’r ffurflen hon)
Gallwch gymryd hyd at 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth, gyda’i gilydd neu ar wahân.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
I hawlio Tâl Tadolaeth Statudol a/neu Absenoldeb Tadolaeth, dylech wneud y canlynol:
- llenwi’r ffurflen hon a’i hanfon at eich cyflogwr o leiaf 15 wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni (mae hyn yn wahanol os byddwch yn mabwysiadu)
- rhoi gwybod i’ch cyflogwr am eich dyddiadau absenoldeb (gallwch newid hyn yn ddiweddarach os byddwch yn dweud wrth eich cyflogwr o leiaf 28 diwrnod cyn i’ch absenoldeb ddechrau)
Gallwch gymryd hyd at 2 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth, ond mae’n rhaid i chi eu cymryd gyda’i gilydd.
Anfon y ffurflen i’ch cyflogwr
Unwaith i chi lenwi’r ffurflen hon, mae’n rhaid i chi ei lawrlwytho a’i llofnodi cyn anfon copi ohoni at eich cyflogwr. Os ydych yn anfon y ffurflen drwy’r post, bydd angen peiriant argraffu arnoch.
Dechrau nawr