Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Mae’r offeryn yn gymorth ac mae’n bosibl na fydd yn cwmpasu pob amgylchiad.
Nod yr offeryn yw’ch helpu i wirio a allwch ac y dylech wneud cais am dystysgrif swm rhydd o dreth trosiannol.
Nid yw’r offeryn hwn yn addas ar gyfer eich amgylchiadau, Os yw’r canlynol yn wir:
- rydych chi dros 75 oed
- rydych yn Gynrychiolydd Personol Cyfreithiol aelod a oedd dros 75 oed adeg y farwolaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth drwy ddarllen tudalen PTM174100 o’r Llawlyfr Treth Pensiynau (yn agor tab newydd), neu efallai yr hoffech ofyn am gyngor ariannol annibynnol.