Ynglŷn â’r ffurflen hon
Mae pob cwestiwn yn y ffurflen hon yn cyfeirio at y flwyddyn dreth bresennol, sef 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025.
Er mwyn sicrhau y byddwn yn ad-dalu’r swm cywir o dreth i chi, mae angen i ni wybod am yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth hon. Rhowch yr amcangyfrif cywiraf y gallwch os nad ydych yn gwybod y ffigurau terfynol.
Mae 10 adran i’w llenwi.
Bydd nifer y cwestiynau y mae angen i chi eu hateb yn amrywio yn dibynnu ar yr atebion a roddir gennych.
Gallwch wirio a diwygio’ch atebion ar ddiwedd pob adran.
Ar ôl i chi ei llenwi, bydd angen i chi argraffu’r ffurflen a’i hanfon i CThEF.