Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Gall y gyfrifiannell hon dim ond darparu amcangyfrif sylfaenol yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi’n ei nodi.
Rhaid i’ch incwm fod yn llai na £100,000 i allu defnyddio’r gyfrifiannell hon.
Cyfrifir yr amcangyfrif gan ddefnyddio’r lwfans personol llawn.
Dylech ond gynnwys incwm o gynilion dros £1000 os ydych yn drethdalwr ar y gyfradd sylfaenol, neu £500 os ydych yn drethdalwr ar y gyfradd uwch.
Mae’r symiau islaw’r terfynau hyn yn dod o dan y Lwfans Cynilion Personol.
Ni ellir addasu’r cod treth.
Ni fydd y gyfrifiannell yn ystyried incwm trethadwy arall, er enghraifft
- Difidendau
- Ymddiriedolaethau