Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Fel arfer mae’n cymryd tua 10 munud i’w llenwi.
Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell i
- gyfrifo a yw cydran o ystâd yn gymwys ar gyfer y gyfradd Treth Etifeddiant is
- gyfrif isafswm y cyfraniad elusennol er mwyn i’r gydran fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd Treth Etifeddiant is
Bydd angen i chi nodi symiau o gydran yr ystâd rydych yn gwneud y cyfrifiad amdani.
Mae ystâd person ar gyfer Treth Etifeddiant yn cynnwys yr holl eiddo y mae ganddo hawl fuddiannol iddynt.
Disgrifir y rhannau o’r eiddo y mae ganddo hawl fuddiannol iddynt fel ‘cydrannau’r ystâd’.
Gallwch wirio a diwygio’ch atebion cyn cael eich canlyniad.
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lenwi’r cyfrifiad.
Ar ôl ei gwblhau, gallwch gadw neu argraffu’r canlyniad at eich cofnodion.
Gallwch ddysgu rhagor am y gyfradd is ar gyfer rhoddion elusennol: cydrannau’r ystâd (yn agor tab newydd).