Mae fy nghwmni'n segur. A oes rhaid i mi gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein?
Nid yw'r rheoliad ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth y Cwmni ar-lein yn newid y gofyniad cyfreithiol i gyflwyno Ffurflen Dreth. Os bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn anfon hysbysiad atoch i gyflwyno Ffurflen Dreth, yna mae'n rhaid i chi wneud hynny. Yn y mwyafrif o achosion, os yw CThEM yn gwybod bod cwmni yn segur, ni fydd yn anfon hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth.