A allaf ddiwygio fy Ffurflen Dreth y Cwmni ar-lein ar ôl i mi ei chyflwyno?
Gallwch. Gallwch ddiwygio Ffurflen Dreth rydych eisoes wedi'i chyflwyno i Gyllid a Thollau EM (HMRC). Gallwch anfon y diwygiadau ar-lein neu ar bapur.
Mae arweiniad ar sut i ddiwygio Ffurflen Dreth ar gael ar y dudalen we ar gyfer Treth Gorfforaeth: sefydlu a rheoli eich cyfrif ar-lein.