Rwyf eisoes wedi cofrestru fel asiant ac mae gen i gleient sy'n gwmni enwebedig o fewn Trefniant Talu Grŵp. Sut mae bwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau'r grŵp?
Bydd y cwmni enwebedig yn ymddangos ar eich rhestr o gleientiaid (ar yr amod bod ffurflen 64-8 yn ei le, neu awdurdodiad tebyg) a byddwch yn gallu gweld manylion y cwmni a manylion y grŵp drwy ddefnyddio Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer y cwmni enwebedig.