Beth mae Treth Gorfforaeth ar-lein yn gadael i mi ei wneud?
Mae gwasanaeth ar-lein Cyllid a Thollau EM (CThEM) ar gyfer Treth Gorfforaeth yn cynnig y canlynol:
- Cyflwyno Ffurflenni Treth y Cwmni - gall y mwyafrif o gwmnïau neu eu hasiant awdurdodedig anfon Ffurflenni Treth y Cwmni, cyfrifon a chyfrifiannau ar-lein
- Cyflwyno cyfrifon y cwmni ar y cyd - gall rhai cwmnïau gyflwyno'u cyfrifon statudol i CThEM (fel rhan o'u Ffurflen Dreth y Cwmni) ac anfon cyfrifon statudol, talfyredig neu segur i Dŷ'r Cwmnïau gan ddefnyddio un cyfleuster ar-lein
- Bwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau - gall cwmni sengl neu eu hasiant awdurdodedig fwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau'r cwmni. Gall y cwmni enwebedig mewn Trefniant Talu Grŵp neu ei asiant awdurdodedig fwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau ar gyfer y grŵp, unrhyw arian a ddosrannwyd i gwmnïau unigol o fewn y grŵp a rhwymedigaethau a thaliadau'r cwmni ei hun
- Newid manylion - gall sefydliadau anghorfforedig neu eu hasiant awdurdodedig newid eu henw, cyfeiriad y busnes, rhif ffôn a'u manylion cyswllt. Dim ond i ddiweddaru eu manylion cyswllt ar gyfer Treth Gorfforaeth y gall cwmnïau (sefydliadau corfforedig) ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Os ydych yn newid yr enw cofrestredig neu gyfeiriad cofrestredig y swyddfa, mae'n rhaid i chi roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau. Cyn gynted ag y bydd Ty'r Cwmnïau wedi diweddaru eu cofnodion, byddant yn rhoi gwybod i CThEM am y newid yn awtomatig. Does dim rhaid i chi roi gwybod i CThEM ar wahân