Pa fformat y mae'n rhaid i mi ei ddefnyddio ar gyfer fy ffeiliau wrth gyflwyno fy nghyfrifon a'm cyfrifiannau ar-lein?
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy'n dod i ben ar ôl 31 Mawrth 2010, mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch cyfrifiannau treth a, chydag ychydig iawn o eithriadau, y cyfrifon sy'n ffurfio rhan o'ch Ffurflen Dreth y Cwmni, gan ddefnyddio'r fformat inline eXtensible business Reporting Language (iXBRL).
Dim ond un ffeil Cyfrifon Statudol iXBRL y gallwch ei chynnwys fel rhan o'ch Ffurflen Dreth y Cwmni. Os ydych yn cynnwys cyfrifon iXBRL fel rhan o'r Ffurflen Dreth ar-lein, mae'n rhaid atodi unrhyw gyfrifon ychwanegol sy'n ffurfio rhan o'r Ffurflen Dreth fel ffeiliau PDF. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio ôl-ddodiad â llythrennau bach (.pdf) gydag enw'r ffeil neu bydd yr uwchlwythiad yn methu.
Gallwch ddod o hyd i arweiniad manwl ar ofynion Cyllid a Thollau EM er mwyn cyflwyno Ffurflenni Treth Gorfforaeth ar-lein ac ar ddefnyddio iXBRL ar y dudalen we Corporation Tax online filing and electronic payment.