Asiant ydw i, ac ar hyn o bryd nid wyf yn cyflwyno Ffurflenni Treth y Cwmni ar ran fy nghleient ar-lein. Beth sydd angen i mi ei wneud i ddechrau arni?
Os ydych wedi'ch cofrestru fel asiant gyda Chyllid a Thollau EM (CThEM) a bod gennych Gyfeirnod Asiant, gallwch gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth ar gyfer Asiantau. Gallwch gofrestru fel asiant drwy gysylltu â'ch Swyddfa Treth Gorfforaeth.
Yna, gallwch gofrestru ac ymrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth ar gyfer Asiantau drwy'r tudalennau cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.