Pa dudalennau atodol CT600 a gefnogir gan feddalwedd cyflwyno ar-lein Cyllid a Thollau EM (CThEM)?
Cefnogir y tudalennau atodol canlynol:
- CT600A (Benthyciadau i gyfranogwyr gan gwmnïau caeedig)
- CT600E (Elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol)
- CT600J (Datgelu cynlluniau arbed treth)
Mae meddalwedd CThEM hefyd yn cynnwys templedi cyfrifon a chyfrifiannau. Os ydych yn defnyddio'r rhain, nid oes angen i chi boeni am anfon yr wybodaeth hon yn y fformat cywir. Caiff hyn ei wneud yn awtomatig i chi.
Fel arall, gallwch atodi'ch cyfrifon a'ch cyfrifiannau eich hun. Bydd angen i'r mwyafrif o gwmnïau atodi eu ffeil cyfrifon ar ffurf Inline eXtensible Business Reporting Language (iXBRL). Gall sefydliadau anghorfforedig gyflwyno'u cyfrifon naill ai ar ffurf iXBRL neu fel PDF. Rhaid i'r cyfrifiannau fod ar ffurf iXBRL bob tro.
Gallwch hefyd atodi dogfennau atodol eraill sydd eu hangen fel rhan o'ch Ffurflen Dreth, er enghraifft, hawliadau neu ddewisiadau, adroddiadau neu ddatganiadau. Mae'n rhaid i'r atodiadau hyn fod ar ffurf PDF.
Sylwer: 5MB yw uchafswm maint y ffeiliau cyfunol ar gyfer atodiadau wrth ddefnyddio meddalwedd lawrlwythadwy CThEM.