Ni all cyfnod cyfrifyddu ar gyfer Treth Gorfforaeth fod yn hirach na 12 mis. Er enghraifft, os yw cyfrifon eich cwmni'n cwmpasu cyfnod o 18 mis, a bod eich cwmni'n masnachu drwy gydol y cyfnod, mae'n rhaid i chi gyflwyno dwy Ffurflen Dreth y Cwmni oherwydd bydd gennych ddau gyfnod cyfrifyddu ar gyfer Treth Gorfforaeth. Mae'r cyfnod cyfrifyddu cyntaf yn cwmpasu'r 12 mis cyntaf ac mae'r ail gyfnod yn cwmpasu'r 6 mis sy'n weddill.
Dim ond gydag un o Ffurflenni Treth y Cwmni y mae angen i chi gynnwys cyfrifon eich cwmni, a hynny ar ffurf iXBRL.
Defnyddio meddalwedd CThEM ar gyfer cyflwyno Treth Gorfforaeth ar-lein
Os ydych yn defnyddio meddalwedd ar-lein CThEM, rhestrir y cyfnodau cyfrifyddu ar sail yr wybodaeth sydd gan CThEM, ond efallai y bydd angen i chi eu newid. Er mwyn gwneud hyn, gweler y swyddogaeth 'Newid y Cyfnod Cyfrifyddu'. Yna, gallwch ddewis a lawrlwytho'r Ffurflen Dreth ar-lein ar gyfer pob un o'r cyfnodau cyfrifyddu. Ond dim ond ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu cyntaf y mae'n rhaid i chi gwblhau'r templed cyfrifyddu, ynghyd â'r cyfrifiannau ar gyfer yr un cyfnod.
Ar gyfer yr ail gyfnod cyfrifyddu ac unrhyw gyfnod cyfrifyddu dilynol:
Defnyddio meddalwedd fasnachol
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i CThEM beth yw dyddiadau dechrau a gorffen eich cyfnod cyfrifyddu pan fyddwch yn cyflwyno'ch Ffurflenni Treth.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd fasnachol, gallwch atodi un cyfrifiant ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu cyfan i un Ffurflen Dreth CT600 (sydd â dyddiadau dechrau a diwedd cyfatebol ar gyfer cyfnod y Ffurflen Dreth). Os byddwch yn gwneud hyn, bydd angen i chi gynnwys esboniad ar y ffurflen CT600 nad yw'r cyfrifiant wedi'i gynnwys gan ei fod wedi cael ei gynnwys gyda'r ffurflen arall.
Fel arall, gallwch atodi'r 'un' cyfrifiannau i'r ddwy ffurflen CT600 drwy newid y dyddiadau a gofnodwyd ar gyfer dyddiadau dechrau a diwedd cyfnod y Ffurflen Dreth yn y cyfrifiannau, neu gallwch atodi cyfrifiant ar wahân i bob Ffurflen Dreth sy'n cwmpasu'r cyfnod cyfrifyddu.
Cysylltwch â'ch darparwr meddalwedd i gael cyngor os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar sut i ddefnyddio'ch meddalwedd.