Mae fy nghwmni'n rhan o grŵp o gwmnïau - a allaf ddefnyddio'r feddalwedd gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) i gyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein?
Gall grŵp o gwmnïau ddefnyddio'r feddalwedd gan CThEM i gyflwyno ar-lein oni bai bod angen iddynt adrodd am unrhyw drafodion grŵp (er enghraifft, rhyddhad grŵp). Mae'n rhaid i chi adrodd am drafodion grŵp ar y dudalen atodol CT600C ac nid yw'r dudalen hon wedi ei chynnwys yn y feddalwedd gan CThEM. Wrth gwrs, gallwch ddefnyddio meddalwedd sydd ar gael yn fasnachol er mwyn cyflwyno'ch Ffurflen Dreth ar-lein.
Ni waeth pa feddalwedd rydych chi yn ei defnyddio, rhaid i chi greu cyfrif ar-lein gyda CThEM ar gyfer Treth Gorfforaeth cyn y gallwch gyflwyno Ffurflenni Treth ar-lein.
Mae arweiniad ar greu cyfrifon ar-lein ar gyfer grwpiau o gwmnïau ar gael ar y dudalen Groups of companies: what to consider before setting up your online account page.