A yw'n bosibl i mi wneud cyflwyniad prawf o'm Ffurflen Dreth y Cwmni?
Mae gwasanaeth Treth Gorfforaeth ar-lein CThEM yn cefnogi gwasanaeth 'profi'n fyw' ar gyfer defnyddwyr meddalwedd fasnachol. Mae 'profi'n fyw' yn caniatáu i ddefnyddwyr gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni enghreifftiol fel prawf i Gyllid a Thollau EM (CThEM) cyn anfon y Ffurflen Dreth derfynol. Gwiriwch gyda'ch cyflenwr a yw'r cynnyrch rydych yn ei ddefnyddio'n cefnogi 'profi'n fyw' ai peidio.
Sylwer: Does dim gwasanaeth profi ar gael i gwsmeriaid sy'n defnyddio'r feddalwedd gan CThEM i gyflwyno Treth Gorfforaeth ar-lein. Mae'r templedi cyfrifon a chyfrifiannau'n sicrhau bod eich Ffurflen Dreth yn bodloni'r gofynion o ran fformat.