A oes rhaid i elusennau gyflwyno cyfrifon gan ddefnyddio iXBRL?
Gall elusennau anghorfforedig gyflwyno'u cyfrifon fel ffeil PDF. Yn ogystal, o dan drefniadau trawsnewidiol, gall elusennau llai o faint sydd wedi eu hymgorffori o dan y Deddfau Cwmnïau gyflwyno'u cyfrifon fel ffeil PDF.
Gallwch ddod o hyd i arweiniad manwl ynghylch y trefniadau trawsnewidiol ar gyfer elusennau llai o faint ar y dudalen we Charities - Claims and Returns.