Rwyf yn atodi fy nghyfrifon a'm cyfrifiannau i'm Ffurflen Dreth CT600 - Beth sydd angen i mi ei wneud i sicrhau bod y data ar ffurf iXBRL?
Ni fydd angen i'r mwyafrif o gwmnïau gymryd camau arbennig i drosi cyfrifon neu gyfrifiannau i ffurf iXBRL. Gwneir hyn yn awtomatig gan feddalwedd Cynhyrchu Cyfrifon Terfynol (FAP) neu feddalwedd paratoi treth sydd ar gael yn fasnachol. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd angen i ddefnyddwyr meddalwedd FAP a meddalwedd ymddiddan wneud rhywfaint o dagio â llaw yn y lle cyntaf er mwyn ehangu ar y tagio awtomatig a ddarperir gan y feddalwedd.
Gallwch ddod o hyd i arweiniad manwl ar sut i dagio a'r hyn y mae angen ei dagio yn y fformat iXBRL ar y dudalen we Corporation Tax online filing and electronic payment.