A oes rhaid i mi ddefnyddio'r gwasanaeth cyflwyno ar y cyd i gyflwyno cyfrifon statudol, talfyredig neu segur i Dŷ'r Cwmnïau?
Nac oes. Mae'r gwasanaeth cyflwyno ar y cyd yn ychwanegiad dewisol at feddalwedd cyflwyno ar-lein CThEM. Os ydych yn dewis peidio â defnyddio'r gwasanaeth cyflwyno ar y cyd neu eich bod yn cael trafferthion, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn parhau i fodloni gofynion y Ddeddf Cwmnïau. Dylech wirio'ch dyddiad cau ar gyfer cyflwyno a mynd ati i gyflwyno cyfrifon yn uniongyrchol i Dŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r opsiynau sydd ar gael ar wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau ar 0303 123 4500. Gallwch ofyn am siaradwr Cymraeg.