Sut fydd y system yn gwybod sut i gyfrifo fy ffigurau os ydw i'n defnyddio'r cynllun cyfradd unffurf?
Rydych yn parhau'n gyfrifol am ddilyn y rheolau cyfrifyddu arbennig sy'n
berthnasol os ydych yn defnyddio'r cynllun cyfradd unffurf. I'r perwyl hwnnw
does dim gwahaniaeth rhwng y ffurflen dreth bapur a'r un ar-lein. Dilynwch y
cysylltiad Cynllun Cyfradd Unffurf ar gyfer busnesau bach
am wybodaeth ynghylch sut i lenwi eich ffurflen dreth os ydych yn defnyddio'r
cynllun.