1235 - Dynodydd Defnyddiwr (ID)
Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a roddwyd i chi pan wnaethoch ymuno'n wreiddiol i gael cyfrif Porth y Llywodraeth.
Sylwer: Os ydych yn cofrestru ar gyfer trethi Cyllid a Thollau EM (CThEM) ac wedi creu cyfrif newydd Porth y Llywodraeth fel rhan o'r broses cofrestru, nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) yna yn lle.
Mae Dynodydd Defnyddiwr yn cynnwys 12 rhif a gynhyrchir ar hap, er enghraifft, 123456789123.
- Os gwnaethoch gofrestru ar ôl 20 Awst 2001 ond cyn 20 Medi 2008 bydd eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn cynnwys chwech neu ddeuddeg nod a gynhyrchir ar hap; bydd yn gyfuniad o lythrennau a rhifau
- Os gwnaethoch gofrestru cyn 20 Awst 2001 bydd eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) yn cynnwys 3 llythyren wedi eu dilyn gan 3 rhif, er enghraifft, ABCD1234
Peidiwch â gadael bylchau rhwng y llythrennau neu'r rhifau wrth i chi nodi eich Dynodydd Defnyddiwr (ID).
Os ydych wedi colli eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) gallwch ofyn am un newydd drwy ddilyn y cysylltiad 'Lost User ID' ar y dudalen 'Welcome to Online Services' ar wefan CThEM.
Os ydych yn mewngofnodi eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu Gyfrinair yn anghywir 3 gwaith neu fwy, byddwch yn cael eich cloi allan o'ch cyfrif Gwasanaethau Ar-lein CThEM am 2 awr. Ar ôl hynny byddwch yn gallu ceisio mewngofnodi eto gan ddefnyddio'r Dynodydd Defnyddiwr (ID) a Chyfrinair cywir.