Cyfrifiannell y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws wedi’i ymestyn tan 30 Medi 2021. Ar gyfer cyfnodau hawlio rhwng 1 Tachwedd 2020 a 30 Ebrill 2021, gallwch hawlio 80% o gyflog arferol cyflogai ar gyfer oriau na chawsant eu gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis.

O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, mae’r swm y gallwch ei hawlio’n newid:

Mis yr hawliad Cyfraniad y llywodraeth: cyflog am oriau na chawsant eu gweithio Cyfraniad y cyflogwr: cyflog am oriau na chawsant eu gweithio
Mai 80% hyd at £2,500 0%
Mehefin 80% hyd at £2,500 0%
Gorffennaf 70% hyd at £2,187.50 10% hyd at £312.50
Awst 60% hyd at £1,875 20% hyd at £625
Medi 60% hyd at £1,875 20% hyd at £625

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i chi dalu o leiaf 80% o’u cyflog i’ch cyflogeion am y cyfnod y maent ar ffyrlo. Gallwch ddewis talu mwy na hyn iddynt, ond nid oes rhaid i chi wneud hynny.

Ni allwch hawlio cyfraniadau Yswiriant Gwladol na chyfraniadau pensiwn y cyflogwr, ond mae’n rhaid i’r cyflogwr dalu’r rhain o hyd.

Ynglŷn â’r gyfrifiannell

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gyfrifo’r ffigurau y bydd eu hangen arnoch pan fyddwch yn hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws.

Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer pob cyflogai sydd ar ffyrlo llawn neu ffyrlo hyblyg, ac adio canlyniadau swm pob hawliad ar gyfer y cyfnod hawlio. Ar gyfer eich cofnodion, bydd y gyfrifiannell hefyd yn dadansoddi’r cyfrifiadau ar gyfer pob cyfnod cyflog.

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell hon ar gyfer y canlynol:

  • cyflogeion sydd ar ffyrlo llawn ac felly sydd heb weithio unrhyw oriau
  • cyflogeion a ddaeth yn ôl i’r gwaith am rai o’u horiau arferol o 1 Gorffennaf 2020 ymlaen
  • y mwyafrif o gyflogeion sy’n cael eu talu’n wythnosol, bob pythefnos, bob pedair wythnos neu’n fisol mewn cyfnodau cyflog sefydlog
  • cyflogeion sydd wedi dychwelyd o absenoldeb statudol o 1 Awst 2020 ymlaen, er enghraifft, absenoldeb mamolaeth

Ni ellir defnyddio’r gyfrifiannell ar gyfer cyflogeion os yw’r canlynol yn wir:

  • gwnaethant ddechrau cyfnod rhybudd neu roedd yn ofynnol iddynt ddychwelyd i’r gwaith yn ystod cyfnod rhybudd i weithio yn yr un cyfnod hawlio, ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020
  • mae ganddynt gyfnod cyflog blynyddol
  • maent wedi’u trosglwyddo o dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE)
  • ni chawsant eu cyflogi’n barhaus cyn i’w ffyrlo
  • maent wedi dychwelyd o absenoldeb megis absenoldeb mamolaeth yn ystod y 3 mis diwethaf (os yw’r cyfnod hawlio ym mis Gorffennaf 2020 neu’n gynt)
  • maent yn cael cyfraniadau pensiwn y cyflogwr y tu allan i gynllun pensiwn cofrestru awtomatig
  • daeth eu ffyrlo i ben ac yna dechreuodd eu ffyrlo eto yn ystod yr un cyfnod hawlio
  • cawsant eu talu ar ffurf amrywiol ac maent wedi bod ar fwy nag un cyfnod o ffyrlo lle’r oedd unrhyw ran o’r cyfnodau ffyrlo yn ystod blwyddyn dreth 2019/20
  • mae ganddynt gyflog amrywiol, gwnaethant ddechrau gweithio cyn 6 Ebrill 2020 ac nid oeddent ar gyflogres eu cyflogwr ar neu cyn 19 Mawrth 2020
  • gwnaethant ddechrau gweithio i’w cyflogwr yn ystod cyfnod calendr ym mlwyddyn dreth 2019-20 sy’n cydfynd â’r holl gyfnod neu ran ohono
  • maent ar gyflog sefydlog ac wedi newid amlder y taliadau, er enghraifft o gyflog misol i gyflog wythnosol

Yn yr achosion hyn, mae’n rhaid i chi gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio â llaw gan ddefnyddio’r arweiniad cyfrifo neu ceisiwch gyngor proffesiynol.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod y swm rydych yn ei hawlio yn gywir.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad dechrau’r cyfnod hawlio (ar gyfer eich hawliad cyntaf, dyma pryd y dechreuodd y cyflogai cyntaf ei gyfnod ffyrlo)
  • dyddiad gorffen y cyfnod hawlio
  • dyddiadau talu cyflog (pan fydd y cyflogai’n cael ei gyflog)
  • dyddiadau cyfnodau cyflog (y cyfnodau sy’n cael eu cwmpasu gan y cyflog)
  • symiau taliadau rheolaidd
  • taliadau ychwanegol (megis cildyrnau, bonysau dewisol, taliadau nad ydynt yn arian parod)
  • dyddiad y daeth y ffyrlo i ben, os nad yw’n parhau

O 1 Gorffennaf 2020 ymlaen, os yw’r cyflogai ar ffyrlo hyblyg, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

Darllenwch ragor am y camau i’w cymryd cyn cyfrifo’ch hawliad

Dechrau nawr