Ewch yn syth i‘r prif gynnwys
Yn ôl

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae CThEF yn cymryd eich diogelwch o ddifrif, peidiwch â gwneud y canlynol:

  • ceisio dod o hyd i fwy o wybodaeth am y twyll neu’r osgoi treth
  • rhoi gwybod i unrhyw un eich bod yn rhoi gwybod amdano
  • l annog unrhyw un i gyflawni trosedd fel y gallwch gael rhagor o wybodaeth

Mae CThEF yn gwerthfawrogi’r wybodaeth rydych yn ei rhoi. Cofiwch y canlynol:

  • bydd unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn breifat ac yn gyfrinachol
  • gallwch roi’ch manylion cyswllt neu gallwch roi’r wybodaeth i ni yn ddienw
  • ni ddylech geisio cael unrhyw wybodaeth nad oes gennych eisoes

Ni all CThEF ymchwilio i faterion sy’n gysylltiedig â’r heddlu, Llu’r Ffiniau neu adrannau eraill o’r Llywodraeth. Bydd unrhyw honiadau nad ydynt yn ymwneud â CThEF yn cael eu hailgyfeirio at yr asiantaeth berthnasol ar gyfer gorfodi’r gyfraith.

Gwobrau

Mewn rhai achosion, gall CThEF dalu gwobrau. Rhoddir y rhain yn ôl disgresiwn CThEF ac nid oes sicrwydd o wobr. I gael eich ystyried am wobr, mae angen i chi roi eich manylion cyswllt.

Ni all CThEF roi unrhyw adborth ar eich adroddiad. Os ydych yn gymwys ar gyfer gwobr, byddwn yn cysylltu â chi.

Derbyn a yn eich blaen