Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Mae’r arweiniad hwn i’ch helpu i gefnogi galwr a allai fod yn profi cam-drin economaidd.
Mae cysylltiadau drwy gydol yr arweiniad os yw’r galwr:
- mewn perygl uniongyrchol neu fod risg o hynny
- heb allu siarad yn rhydd mwyach neu’n defnyddio gair neu ymadrodd diogel
- am beidio â pharhau â’r alwad
Mae’r cysylltiadau’n rhoi:
- camau i’w cymryd yn y sefyllfaoedd hyn
- cymorth gan ymgynghorydd
Byddant yn edrych fel:
Rydym yn deall y gall galwadau o’r fath fod yn ofidus. Mae’ch llesiant chi’n bwysig a bydd cefnogaeth ar gael i chi ar ddiwedd yr arweiniad.
Cofiwch – efallai mai chi yw’r person cyntaf i glywed am brofiadau