Ewch yn syth i‘r prif gynnwys

Cofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd (ECL) os ydych yn sefydliad neu’n endid:

  • sy’n cael ei reoleiddio gan CThEF ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian (AML)
  • sy’n cael ei reoleiddio gan un o Oruchwylwyr Corff Proffesiynol (PBS) ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian (AML)

Gwiriwch a oes angen i chi dalu’r ardoll (yn agor mewn tab newydd).

Os ydych yn rhan o grŵp busnes, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer pob endid yn eich grŵp sy’n bodloni’r gofynion.

Byddwch yn gallu cyflwyno datganiad a thalu’r ardoll ar ôl i chi gofrestru. Mae’n rhaid i chi dalu’r ardoll erbyn 30 Medi 2025. Codir llog arnoch os ydych yn talu’n hwyr.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • unrhyw gyfnodau cyfrifyddu ar gyfer eich sefydliad sy’n dod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol
  • refeniw yn y DU eich sefydliad yn ystod unrhyw gyfnodau cyfrifyddu perthnasol
  • a wnaeth eich sefydliad gynnal gweithgaredd a reoleiddir gan reoliadau AML ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn
  • y manylion y gallwn eu defnyddio i adnabod eich busnes – gweler y rhestr o fanylion sydd eu hangen, gweler y rhestr o fanylion sydd eu hangen (yn agor mewn tab newydd)
  • y sector busnes mae’ch sefydliad yn gweithredu ynddo
  • manylion rhywun yn eich sefydliad a all weithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw weithgareddau sy’n berthnasol i’r ECL

Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), neu’r Comisiwn Hapchwarae (GC), yn goruchwylio eich gweithgareddau AML
  • rydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran cleient – ar hyn o bryd, ni allwch gofrestru ar gyfer yr ECL ar ran eich cleient
  • nid ydych yn bodloni gofynion refeniw y DU o ran cofrestru
Dechrau nawr